YMGYSYLLTU RHYNGWLADOL GWEINIDOGOL
CHWEFROR 2025
|
YMWELIADAU MEWNOL |
|
|
12 Chwefror
|
Ymweliad â Chymru gan wledydd Nordig a Benelux Cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio â Dirprwy Benaethiaid Cenhadaeth (DHM) o'r llysgenadaethau Nordig a Benelux. Pwrpas eu hymweliad oedd cael gwell dealltwriaeth o'r tirlun gwleidyddol yng Nghymru.
|
|
YMWELIADAU ALLANOL |
|
|
12 Chwefror
25 Chwefror
25 Chwefror
25 Chwefror
26 Chwefror
27 Chwefror
|
Cyfarfod y Prif Weinidog â 27 aelod-wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd Teithiodd y Prif Weinidog i Lundain i gwrdd â Phenaethiaid Cenadaethau 27 o aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd sydd wedi eu lleoli yn Llundain. Cyn y cyfarfod, cynhaliodd y Prif Weinidog drafodaethau dwyochrog â Llysgennad yr UE i'r Deyrnas Unedig.
Ymweliad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ag India Teithiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i India i gau Cymru yn India 2024 yn nerbyniad Dydd Gŵyl Dewi Mumbai, ailddatgan Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar recriwtio gofal iechyd gyda Llywodraeth Kerala, a chymryd rhan mewn trafodaethau lefel uchel gan gynnwys ar ofal iechyd, masnach a buddsoddiad. Yr Ysgrifennydd Iechyd yn chwifio'r faner dros Gymru yn India | LLYW.CYMRU
Derbyniad Dydd Gŵyl Dewi, Llundain Cyd-gynhaliodd y Dirprwy Brif Weinidog dderbyniad Dydd Gŵyl Dewi yn Llundain gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Digwyddiad rhwydweithio oedd hwn, gan roi cyfle i Lywodraeth Cymru hyrwyddo negeseuon allweddol o amgylch ein diwrnod cenedlaethol.
Derbyniad Dydd Gŵyl Dewi yn Llysgenhadaeth Slofacia, Llundain Aeth y Dirprwy Brif Weinidog i dderbyniad yn Llysgenhadaeth Slofacia i nodi Dydd Gŵyl Dewi.
Digwyddiad Cymru yn Llysgenhadaeth y Swistir, Llundain Ymunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio â derbyniad Wythnos Cymru a gynhaliwyd gan Lysgennad y Swistir i'r DU. Yn dilyn y derbyniad mynychodd Ysgrifennydd y Cabinet ddigwyddiad 'Buddsoddi yng Nghymru'r Dyfodol,' a chyfarfu ag Arglwydd Faer Llundain.
Derbyniad i ddathlu Pen-blwydd Ymerawdwr Japan Teithiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i Lysgenhadaeth Japan yn Llundain ar gyfer derbyniad i ddathlu pen-blwydd Ymerawdwr Japan. Cynhaliwyd y digwyddiad gan Lysgennad Japan i'r DU ac roedd yn gyfle i adeiladu ar lansiad diweddar blwyddyn Cymru/Japan.
|